Y Pwyllgor Cyllid |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 4 Gorffennaf 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 11:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Jocelyn Davies (Cadeirydd) Peter Black Christine Chapman Paul Davies Mike Hedges Julie Morgan Ieuan Wyn Jones Jenny Rathbone |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol, Llywodraeth Cymru Margaret Davies, Llywodraeth Cymru Matthew Denham-Jones, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Gareth Price (Clerc) Daniel Collier (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Eleanor Roy (Ymchwilydd) Joanest Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Ann Jones; bu Jenny Rathbone yn dirprwyo ar ei rhan.
2. Cyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-2013 (Haf 2012)
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Jane Hutt AC, y Gweinidog Cyllid; Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol; Margaret Davies, Pennaeth Polisi’r Gyllideb; a Matthew Denham Jones, Pennaeth Rheoli a Chofnodi Cyllidebau.
2.2 Bu’r Aelodau’n craffu ar waith y Gweinidog.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd Llywodraeth Cymru i:
· Gyhoeddi manylion y prosiectau sy’n cael cyllid gan rownd 6 o’r gronfa buddsoddi i arbed, gan gynnwys faint a gafodd pob prosiect, yr arbedion a ragwelir, manylion y proffil talu’n ôl, a manylion y gwerthusiad sydd ar y gweill o’r gronfa buddsoddi i arbed;
· Darparu gwybodaeth eglurhaol am y buddsoddiad o £1 miliwn yn yr un corff amgylcheddol, a grybwyllwyd gan y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn ei gyfarfod ar 27 Mehefin 2012;
· Cadarnhau pryd y bydd y Pwyllgor yn cael adroddiad diwedd y flwyddyn sy’n rhoi manylion ynghylch amrywiadau rhwng y gwariant gwirioneddol a chyllideb atodol olaf y flwyddyn.
3. Papurau i'w nodi
3.1 Cytunodd y Pwyllgor i ateb yr ohebiaeth gan Drysorlys ei Mawrhydi ynghylch yr ymgynghoriad ar bwerau benthyca newydd i’r Alban, gan amlinellu’r hyn a ganfu’r ymchwiliad i Fenthyca Darbodus a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf.
3.2 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch ei ymchwiliad i Gyllid Datganoledig: Pwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf.
3.3 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch cyllideb atodol 2011-2012 (gwanwyn 2012), a fyddai’n llywio’i waith o graffu ar gyllideb atodol 2012-2013.
3.4 Cadarnhaodd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod blaenorol.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:
Eitemau 5 a 6.
5. Cyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-2013 (Haf 2012) - Trafod y dystiolaeth
5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth ar gyllideb atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-2013 (haf 2012).
6. Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-2014 - Opsiynau ar gyfer penodi ymgynghorydd arbenigol
6.1 Cytunodd y Pwyllgor i benodi cynghorydd technegol i gynorthwyo â’i waith o graffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2013-2014.
Trawsgrifiad